Felicity Thomas
Uwch Ffisiotherapydd
Mae Felicity wedi bod yn ffisiotherapydd ers dros 30 mlynedd ac mae’n byw ar Ynys Môn gyda’i theulu. Mae’n mwynhau cerdded a chadw’n egniol.
Hyd at Ebrill 2020 roedd Felicity hefyd yn gweithio yn y GIG, yn union fel Esther a Lucy, ond ar ôl ymddeol o’r swydd honno’n ddiweddar mae bellach yn rhydd i fwynhau ei hobïau, yn ogystal â chanolbwyntio ar ei gwaith yn y clinig y mae hi’n ei fwynhau’n ofnadwy. Ymunodd â theulu Physio Môn yn ystod haf 2018. Mae hi’n arbenigo ym mhopeth sy’n ymwneud â’r system gyhyrysgerbydol (y cymalau a’r cyhyrau ac ati), mae’n gaffaeliad mawr i’n tîm hefyd!
Bydd ei natur ddigynnwrf ac addfwyn yn gwneud i chi deimlo’n gartrefol a chyda’i chyfoeth o wybodaeth a blynyddoedd o brofiad gallwch fod yn dawel eich meddwl eich bod mewn dwylo diogel!
“Ni allaf ganmol digon ar y gwasanaeth hyd yn hyn. Effeithlon, gofalgar, gwerth rhagorol am arian ac yn bwysicach oll mae fy anaf yn well o lawer. Mae’n gymaint o ryddhad i fod mewn llai o boen. Diolch.”
Becky Jane, adolygiad Facebook