Esther Cadogan

Ffisiotherapydd Arweiniol a Rheolwr y Clinig

Esther yw’r llais y tu ôl i linell ffôn, e-bost a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol Physio Môn. Agorodd y clinig ym mis Mai 2017 ac mae wedi’i dyfu i fod yn glinig prysur a llwyddiannus.

Anglesey Chartered Physiotherapist Esther Cadogan

Ar ôl graddio o Brifysgol Keele fel ffisiotherapydd yn 2003, dychwelodd Esther yno i gwblhau ei gradd MSc yn 2015. Mae hi wedi gweithio yn y GIG trwy gydol ei gyrfa a chwe blynedd yn ôl ymunodd â’r tîm asgwrn cefn arbenigol, i asesu a thrin cyflyrau asgwrn cefn cymhleth. Ers dwy flynedd mae hi wedi bod yn ddarlithydd gwadd yn adran gwyddor chwaraeon Prifysgol Bangor. Mae hi’n mwynhau dysgu’n fawr ac yn gobeithio gwneud mwy ohono yn y dyfodol.

Mae Esther wedi byw ar Ynys Môn bron ar hyd ei hoes ac mae bellach yn byw gyda’i gŵr a’i dau blentyn ifanc, Lottie a Jack. Fel teulu maen nhw’n mwynhau bod yn egnïol ac archwilio popeth sydd gan Ynys Môn i’w gynnig. Mae hi hefyd wrth ei bodd yn padl-fyrddio, rhedeg a thynnu lluniau (ei lluniau hi yw’r holl luniau ar waliau’r clinig).

Dros amser mae clinig Physio Môn wedi ehangu ac erbyn hyn mae ganddo dîm o dri, mae hefyd wedi symud i glinig pwrpasol, gyda golygfa o’r Wyddfa (ar ddiwrnod clir!).

Gweledigaeth Esther ar gyfer y clinig yw nid yn unig iddo barhau i fod yn bractis Ffisiotherapi llwyddiannus ar Ynys Môn ond hefyd iddo wneud gwahaniaeth yn y gymuned. Mae’r clinig yn cefnogi’r ganolfan ddigartref leol a’r ganolfan lloches i ferched trwy gynnal casgliadau blynyddol, ac ers mis Rhagfyr 2019 mae Physio Môn wedi codi bron i £2200 i elusennau lleol trwy gynnal digwyddiadau cerdded, gan gynnwys y digwyddiad Milltir Gardd Ynys Môn yn ystod y cyfnod clo Coronafeirws cyntaf – gyda 166 o bobl ledled y wlad yn cerdded milltir yn eu gerddi i godi arian at elusen!

Ym mis Mai 2018 sefydlodd Esther grŵp cerdded am ddim o’r enw Môn Walkers, i annog pobl i wella eu hiechyd a’u ffitrwydd yn ogystal â gwneud ffrindiau. Gallwch ddarllen mwy am y grŵp cerdded yma.

“Rwy’n teimlo’n angerddol am bopeth sy’n ymwneud â ffisiotherapi a gwneud y clinig yn llwyddiant – rwyf wrth fy modd â fy ngwaith – nid oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath ac mae’n anrhydedd gallu gwneud gwahaniaeth, waeth pa mor fach, i fywydau pobl. Rwy’n falch o Physio Môn, fy nhîm o ffrindiau sy’n gweithio gyda mi a’r cyfan y mae wedi’i gyflawni hyd yn hyn ac rwy’n edrych ymlaen at ei weld yn parhau i dyfu a gwneud gwahaniaeth am flynyddoedd lawer i ddod.” – Esther


“Cefais ddwy glun newydd o fewn 12 mis i’w gilydd – a chyn fy mhen-blwydd yn 50! Roeddwn wedi cael trafferth gyda phoen erchyll ac anweithgarwch am nifer o flynyddoedd. Cafodd ei ddatrys o’r diwedd gyda llawdriniaeth i osod clun newydd. Ar ôl y ddwy lawdriniaeth roeddwn i’n reit gloff, roeddwn i’n cerdded fel hwyaden a gyda phoen pen-glin pryderus iawn nad oeddwn yn meddwl y byddai fyth yn gwella. Es i weld Esther ac roedd hi mor galonogol ac esboniodd fod fy holl symptomau yn hollol normal ar ôl y llawdriniaeth a gefais. Rhoddodd Esther ymarferion penodol i mi wneud i gryfhau fy nghyhyrau gwan iawn a’i deffro nhw! Gwnes yr ymarferion yn ddiwyd a dechreuais weld gwelliant bron iawn yn syth. Ar ôl dim ond tair sesiwn dros gyfnod o amser, gyda gwahanol ymarferion yn cael eu hychwanegu ar bob ymweliad, gallaf ddweud yn onest fy mod i’n berson newydd. Mae fy holl symptomau wedi diflannu ac rwy’n teimlo mor hapus. Mae Esther mor wybodus a chalonogol ac rwy’n ystyried fy hun yn ffodus iawn i gael gwasanaeth fel Physio Môn ar garreg ein drws. Diolch Esther…”

Julie Rees, adolygiad Facebook


Physio Mon , Anglesey Physiotherapy Clinic
Scroll to Top